Adeiladu ein rhwydwaith o glybiau ceir

Yn ôl ym mis Mawrth cyhoeddwyd cyllid sylweddol i ehangu ein rhwydwaith o glybiau ceir trydan sy’n eiddo i’r gymuned ledled Cymru.

Ers hynny rydym wedi bod yn gosod sylfeini’r rhwydwaith estynedig, a dyma ddiweddariad ar y gwaith sydd wedi bod ar y gweill. Fel Cymdeithas Budd Cymunedol ddi-elw rydym eisiau bod yn gwbl dryloyw am yr hyn yr ydym yn ei adeiladu gyda’r prosiect, yn enwedig gan fod cyflymder y prosiect yn galu bod yn rhwystredig o bryd i’w gilydd.

 

Cefndir

Dechreuodd TrydaNi yn 2019 gyda’r nod o adeiladu rhwydwaith o bwyntiau gwefru trydan sy’n eiddo i’r gymuned. Fodd bynnag, erbyn 2022 daeth hi’n amlwg bod y rhwystrau i gyflawni’r weledigaeth hon yn anodd i’w goresgyn, ac yn y cyfamser gwellaodd isadeiledd gwefru ceir Cymru yn sylweddol (gan gynnwys rhwydwaith o wefrwyr cyflym iawn a osodwyd gan Drafnidiaeth Cymru).

Sylweddolodd y tîm yn TrydaNi y gallai clybiau rhannu ceir trydan ddarparu mynediad i nifer fawr o bobl i gerbydau glanach, a thynnu ceir oddi ar y ffordd ar yr un pryd. Trwy bartneru ag Ynni Cymunedol Cymru a chydweithfa technoleg cludiant Ewropeaidd (The Mobility Factory), lansiwyd y clybiau ceir cyntaf, gan ddefnyddio cyllid y Loteri. Am y tro cyntaf, gellid archebu a dadgloi ceir trydan gydag ap symudol sy’n eiddo i’r cydweithfa.

Erbyn dechrau 2023 dechreuodd TrydaNi sgwrs gyda TripTo, grŵp o glybiau ceir yng nghanolbarth Cymru, mae un ohonynt (Machynlleth) wedi bod yn rhedeg ers y 1990au. Dechreuodd TripTo weithio gyda TrydaNi yn haf 2023, ac unwyd y ddwy sefydliad yn ffurfiol ym mis Mawrth eleni.

 

Y Tîm Craidd

Gyda chymorth y cyllid a sicrhawyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, mae TrydaNi bellach â thîm craidd o dri pherson:

Jamie Andrews ydw i. Roeddwn yn gyfarwyddwr gwirfoddol yn TripTo am dair blynedd cyn cymryd y swydd â thâl fel Prif Swyddog Gweithredol TrydaNi. Rwy’n byw ym Machynlleth lle mae gennym nawr ddau gerbyd trydan a phwynt gwefru. Fe wnes i gyd-sefydlu Loco2, gwefan/ap rheilffyrdd Ewropeaidd i helpu pobl i archebu trenau yn lle awyrennau.

Sefydlodd Andrew Capel Clwb Ceir Llani (yn Llanidloes) yn 2007 ac mae wedi gweithio’n ddiflino wrth iddo ehangu i fod yn TripTo, fel bod clybiau ceir eraill yn gallu elwa o’r gronfa ddata a’r seilwaith bilio a ddatblygodd diolch i’w gefndir fel datblygwr meddalwedd.

Mae Cyrene Dominguez wedi bod gyda TrydaNi ers y cychwyn, yn gweithio’n gyntaf drwy gwmni ynni cymunedol, Gwent Energy. Yn ogystal â dylunio ac adeiladu’r wefan hon, mae hi wedi dod yn arbenigwr ar feddalwedd pwyntiau gwefru ac yn awr yn ymdrin â holl agweddau gweithredol ar sut mae aelodau’n defnyddio system/ap TMF i archebu a defnyddio cerbydau.

 

Ein profiad hyd yn hyn

Rhyngom, rydym wedi bod yn gweithio ar glybiau ceir (a thrafnidiaeth carbon isel yn fwy cyffredinol) ers amser maith, ac rydym eisiau defnyddio’r profiad hwn wrth i ni ehangu.

Mae’r clybiau yng nghanolbarth Cymru y mae Andrew a minnau wedi bod yn gweithio arnynt o dan TripTo gyda gweithdrefn eithaf syml: mae angen ysgrifennu milltiroedd a deithiwyd mewn llyfr yn y car, mae modd archebu car drwy galendr ar-lein syml, mae’r allweddi’n cael eu cadw mewn cwpwrdd allweddi, ac mae’n rhaid i ni fynd ar ofyn ein haelodau am daliadau bob mis.

Mae gan y clybiau TrydaNi presennol dechnoleg mwy modern (gellir lleoli, archebu a dadgloi ceir gydag ap symudol) ond mae wedi bod rhai problemau anochel yn ystod y camau cyntaf, yn enwedig wrth osod caledwedd y cerbyd – rhan hanfodol o isadeiledd cyfathrebu y Mobility Factory.

Mae’r ddwy weithdrefn yn cynnwys rôl i gydlynydd lleol, sy ar alw i ateb unrhyw gwestiynau neu broblemau y galail aelodau eu cael wrth ddefnyddio’r cerbydau. Weithiau mae hyn wedi gweithio’n dda, ond rydym wedi cael nifer uchel o gydlynwyr yn mynd a dod, gan mai dim ond ychydig oriau o waith bob mis y mae’r rôl hon yn ei fynnu.

 

Ein gweledigaeth ar gyfer y cam nesaf

Er ei bod hi’n bwysig darparu ar gyfer pob aelod o’r gymuned, gan gynnwys y rhai heb ffonau clyfar, y realiti yw bod pobl bellach yn disgwyl profiad digidol llyfn. Rydym felly eisiau sicrhau bod y broses o ddod o hyd, ymuno neu gychwyn clwb ceir yn lleol mor syml â phosibl ar-lein.

Rydym wrthi’n ail-ddatblygu ein gwefan, gan sicrhau ei bod yn integreiddio’n ddi-dor gyda’r ap, fel y gall aelodau newydd ymuno ac archebu cerbydau’n hawdd.

Rydym hefyd wedi bod yn ail-feddwl y rôl cydlynydd. Yn hytrach na recriwtio cydlynwyr allanol, rydym yn bwriadu cynnig cyfle i aelodau gynorthwyo gyda dyletswyddau cydlynu yn gyfnewid am gredydau gyrru (neu’r arian cyfatebol).

Mae’r dull hyn o weithio cyd-fynd yn fwy â’n gwerthoedd cymunedol gwreiddiol. Bydd yn caniatáu i ni gadw prisiau’n is yn y tymor hir, rydym felly’n treialu’r syniad nawr gyda rhai aelodau presennol. Fel rhan o hyn rydym yn treialu defnyddio grwpiau WhatsApp i hwyluso cyfathrebu effeithiol.

 

Prisio a Gwefru

Agwedd allweddol ar ein gweledigaeth hirdymor yw bod ceir yn cael eu pweru gan ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yma yng Nghymru, gan ddarparu prisiau is na thrydan a brynir o bellach i ffwrdd. Mae ein partneriaeth gyda Ynni Cymunedol Cymru yn gosod y sylfeini ar gyfer y weledigaeth hon.

Yn y tymor byr fodd bynnag, nid yw’n ymarferol cysylltu pwyntiau gwefru i ffermydd gwynt a solar, ac mewn rhai achosion nid yw’n gwneud synnwyr gosod pwynt gwefru o gwbl (er enghraifft os yw’r car wedi’i leoli ym maes parcio canol tref sydd eisoes â sawl pwynt gwefru).

Gyda’n model prisio presennol rydym yn mynnu bod ein defnyddwyr yn dod â’r car yn ôl gyda batri llawn (neu bron yn llawn). Mae hyn yn osgoi’r risg o gael batri gwag ar ddechrau taith i’r defnyddiwr nesaf, ond mae’n golygu mwy o amser/ymdrech ar ran yr aelod, ac nid yw’n caniatáu i ni fanteisio ar brisiau trydan is sydd ar gael yn y pwyntiau gwefru rydym yn eu gosod.

Rydym felly yn bwriadu cyflwyno dau fodel prisio gwahanol: un ar gyfer clybiau sydd â phwynt gwefru pwrpasol (lle bydd tâl y filltir yn disodli’r angen i ddod â’r cerbyd yn ôl gyda batri 80%) ac un arall ar gyfer clybiau heb bwynt gwefru (lle dim ond tâl yr awr fydd yn berthnasol ond bydd yn angenrheidiol dod â’r cerbyd yn ôl gyda batri sy’n fwy llawn).

Yn ogystal â ffioedd am logi cerbydau rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno ffi fisol fach o £3 er mwyn sicrhau bod aelodau’n ddifrifol am ddefnyddio’r cerbyd pan fyddant yn cofrestru (neu o leiaf yn hapus i’n cefnogi mewn ffordd gymedrol hyd yn oed os na fyddant yn dod yn ddefnyddwyr rheolaidd).

Rydym yn hyderus y bydd teithiau o dan y naill strwythur brisio yn fforddiadwy ac yn rhatach na llogi ceir confensiynol, i gyd o dan fodel perchnogaeth gymunedol sy’n golygu bod cynilion yn cael eu dychwelyd i’r gymuned.

Rydym yn parhau i adolygu agweddau eraill ar ein gwasanaeth mewn ymateb i adborth gan aelodau:

Bydd aelodau bellach yn derbyn ad-daliad llawn am unrhyw amser sydd heb ei ddefnyddio ar eu harcheb (cynt dim ond 80% oedd hyn) fel nad ydym yn cosbi aelodau sy’n dod â’r car yn ôl yn gynnar. Rydym yn ychwanegu’r gallu i archebu “car rhithiol” fel y gall aelodau nodi eu hangen am gerbyd pan fydd cerbyd presennol (neu gerbydau) wedi’u harchebu. Mae hyn yn ein helpu i ddeall patrymau galw mewn clwb lleol fel y gwyddom pryd mae’n gwneud synnwyr ychwanegu cerbyd ychwanegol at glwb

Rydym yn gobeithio y bydd y wefan newydd yn gwneud gwaith da o gyfathrebu’n union sut mae’r gwasanaeth newydd yn gweithio, ac rydym yn gobeithio ei gael yn fyw o fewn yr wythnosau nesaf.

 

Ceir a chlybiau newydd

Cyn bo hir byddwn yn barod i ehangu i drefi newydd ledled Cymru.

Mae gennym eisoes 18 cymuned sydd â diddordeb mewn lansio clwb, ac rydym yn dechrau gofyn i’n haelodau sefydliedig gadarnhau eu hymrwymiad drwy gofrestru (rydym yn hoffi cael ymrwymiad cadarn gan o leiaf 20 o aelodau posibl cyn defnyddio cerbyd).

Rydym yn ymchwilio i geir addas heddiw, a byddwn yn barod i ddechrau llogi rhagor o gerbydau ychwanegol gan ein partner ariannu, Robert Owen Community Banking Fund cyn bo hir.

 

Cysylltwch!

Rydym yn gobeithio bod y swydd hon wedi darparu rhywfaint o fewnwelediad defnyddiol i sut rydym yn adeiladu gwasanaeth clybiau ceir TrydaNi. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau.