
Ffurfiwyd TrydanNi gan grŵp craidd o sefydliadau datblygu cynnaliadwy ac ynni cymunedol sy’n cynrhychioli pob rhan o Gymru.
Rydym yn eiddo ar asedau sy’n cynhyrch gwerth giga-wattiau o ynni glân bob blwyddyn yng Nghymru.

O gynlluniau hydro-drydannol yn Abergwyngregyn ac Eryri..

..prosiectau solar yn Sir Fynnwy ac Abertawe..

..i dyrbeini gwynt yng ngorllewin Cymru a’r cymoedd.
Mae miloedd o aelodau wedi buddsoddi degau o filiynau o bunnoedd i mewn i’r prosiectau, ac mae’r elw yn dychwelyd yn ôl i economi Cymru.
Rydym eisiau bod yn rhan o’r newid ac mae nifer ohonom ymhlith y cyntaf i gael cerbyd trydan.
Mae golwg ar y rhwydwaith gwefru cerbydau trydan cyhoeddus yn yr Alban yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni, ac rydym wedi bod yn annog y sector gyhoeddus yng Nghymru i ddatblygu rhwydwaith o bwyntiau gwefru drwy gydol Cymru. Nid yw hwn wedi digwydd yn anffodus, ac mae Cymru nawr y tu ôl i weddill y DG
Byddwn yn parhau i wthio am ragor o weithredu i leihau allyriadau carbon, a chadw ein adnoddau ynni yn lleol, yn cynnwys y broses o drosi at drafnidiaeth carbon isel.
Rydym yn deall y cymunedau lle’r rydym yn byw...
..a beth yw eu hanghenion yn nhermau newid isadeiledd.
Gwnaeth rhai ohonom geisio gosod ein pwyntiau gwefru cerbydau trydan a sylweddoli ein bod ni’n gallu!
Er enghraifft, gwnaeth Gwent Energy CIC osod ei rhwydwaith ei hun yn ne-ddwyrain Cymru, gyda chymorth Cyngor Sir Fynnwy.
Er enghraifft, gwnaeth Gwent Energy CIC osod ei rhwydwaith ei hun yn ne-ddwyrain Cymru, gyda chymorth Cyngor Sir Fynnwy.
Roeddem eisiau rhannu hwn â gweddill Cymru..
