Mae llosgi olew yn niweidio ein planet – ein cartref.

Mae ein hinsawdd yn newid ac mae ansawdd aer gwael yn ein niweidio. Mae dirfawr angen i ni leihau ein hallyriadau carbon ac mae ein dulliau teithio yn parhau’n ffynhonnell sylweddol ar gyfer allyriadau – mae angen i ni symud ymlaen o beriannau tanio mewnol.

Rydym eisiau gweld cymdeithas sy’n elwa o ddefnyddio trafnidiaeth lân a fforddiadwy gan ddibynnu ar ein hunain i bweru’r drafnidiaeth honno. Ein gweledigaeth yw cael pobl yn teithio mewn cerbydau fforddiadwy, di-garbon wedi’u pweru gan yr egni adnewyddadwy rydym ni’n ei gynhyrchu yma yng Nghymru, a thrwy hynny, cadw rhagor o’r costiau i ddefnyddio trafnidiaeth yn ein heconomi leol.

Y car trydan yw’r drafnidiaeth ar gyfer yr 21ain ganrif, a bydd gwefru car yn dod yn arfer cyffredin. Mae prisiau ceir trydannol yn syrthio, ac maen nhw’n rhad i’w rhedeg – tua 50% yn llai na char tebyg sy’n defnyddio peiriant tanio mewnol. Mae’r dechnoleg yn esblygu o hyd.

Ar hyn o bryd, mae dros 100 model gwahanol i ddewis a thua 300,000 o geir trydannol wedi’u cofrestru yn y DG – sy’n debygol o godi i 6 miliwn erbyn 2030 yn ôl rhagolwg llywodraeth y DG. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i 60% o werthiannau ceir preifat newydd yng Nghymru fod yn geir trydannol.

Mae’r toreth o egni adnewyddadwy sydd gennym yng Nghymru’n rhoi cyfle i ni gadw’r holl wlad ar yr heol gan ddefnyddio ynni glân. Mae Cymru fodd bynnag, y tu ôl i’n cymdogion gyda llai o geir trydannol ar yr heol, a llai o mannau gwefru y pen na gweddill y DG.

TrydanNi yw cyfle ynni cymunedol i oresgyn yr heriau rydym yn eu hwynebu wrth ddatblygu isadeiledd gwefru ceir sy’n effeithlon a syml, gan ddadgarboneiddio trafnidiaeth Cymru. ”  – Dr Neil Lewis

Mae’r rhan helaeth o Gymru yn wledig, gyda phoblogaeth sydd wedi’i gwasgaru, darpariaeth wan o drafnidiaeth gyhoeddus a dibyniaeth uchel ar gerbydau preifat.

Efallai bydd nifer o hen geir disel yn rhygnu ymlaen am amser eto yng Nghymru, ond mae goblygiadau treth yn debygol o wneud hynny’n ddrud. Bydd cyfyngiadau ar yrru ceir gyda pheiriannau tanio mewnol i mewn i’n trefi a’n dinasoedd, a bydd gyrrwyr ‘ceir brwnt’ yn cael eu hystyried fel llygrwyr.

Nid pawb sy’n gallu gwneud y newid i gar trydan eto, ac mae defnyddio ceir trydan medru bod yn heriol yng Nghymru. Mae’r grid trydan yn annigonol ac mae ein cartrefi yn gallu bod heb barcio oddi ar y stryd, sy’n atal gwefru cartref.

Nid oes gan 40% o gartrefi ofod oddi ar yr heol i wefru eu ceir.

Ar hyn o bryd, mae gadael y draffordd i fynd ar draws gwlad mewn car trydan yn beth dewr i wneud, gydag ond ambell i bwynt gwefru sy’n gweithio – pan rydych chi’n bell o adref, mae angen i chi wybod sut yr ydych am gyrraedd diwedd y daith.

Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i ddatblygu isadeiledd gwefru sy’n addas i’n dyfodol, a hynny ar frys. Heb wneud, fydd y newid at geir trydannol yn pallu.